Ynghylch Arfer Da Cymru
Gwella gwasanaethau yw nod pob corff sector cyhoeddus ac o ganlyniad mae coladu, rhannu a dysgu am arfer da wedi dod yn flaenoriaeth i lawer o gyrff. Er bod cyrff yn rhannu arfer da yn fewnol, mae’n anodd yn aml cael gafael ar enghreifftiau o arfer da o gyrff eraill - cyfle sy’n cael ei golli pan fo cymaint y gallwn ni i gyd ddysgu o’n gilydd. Nod Porth Arfer Da Cymru yw bod y pwynt mynediad unigol at amrediad eang o arfer da sydd ar gael ar hyd a lled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dod yn Partner Cymru Arfer Da
Cyfranwyr
Mae porth Arfer Da Cymru wedi cael ei ddatblygu a’i weithredu gan grŵp o bartneriaid craidd y mae ganddynt i gyd gyfran gyfartal ym mherchnogaeth y porth. Fel adnodd rhwng partneriaid disgwylir i’r porth dyfu’n gynyddol a chyda phartneriaid eraill yn ymuno, fe ddaw’r wefan yn adnodd hanfodol cyn hir i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Rydyn ni wedi helpu i lunio a chynnal amryw ‘wefannau cymunedol’. Mae’r gwefannau hynny wedi’u llunio ar gyfer amryw sefydliadau penodol yn y sector cyhoeddus am nifer o resymau. Yr hyn sy’n gyffredin i’r cyfryw sefydliadau yw eu bod nhw i gyd wedi ymroi i hybu a lledaenu arferion da a dysg trwy’r we. Cysylltu â ni am fwy o fanylion.
Bydd sefydliadau a phartneriaethau’n cyhoeddi casgliadau o’r fath i hybu arferion da yn eu meysydd nhw. Dim ond un rhifyn y byddan nhw’n ei gyhoeddi, fel arfer, ond maen nhw o gymorth i Arfer Da Cymru.